Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi wfftio adroddiadau mai prinder staff yw’r prif reswm tros gau ward yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth dros dro.
Bydd 11 gwely ar Ward Iorwerth yn wag am bedwar mis, o’r ail o Orffennaf.
Yn ôl llythyr a gafodd ei anfon at staff yr wythnos ddiwetha’, “prinder staff difrifol” yn y ward a’r Uned Rheoleiddio Gardiaidd yw’r prif reswm tros gau.
Roedd y llythyr hefyd yn nodi y bydd yna waith “adnewyddu” yn cael ei wneud ar y ward yn ystod y cyfnod dan sylw.
“Adnewyddu’r ward”
Ond erbyn hyn mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn mynnu mai er mwyn cynnal y gwaith cynnal a chadw, ac nid prinder staff, y mae’r ward yn cau.
Er bod y bwrdd iechyd yn cyfaddef bod yna “brinder staff” ar y ward, maen nhw’n ychwanegu eu bod nhw bellach wedi llwyddo i lenwi’r bwlch “lle bo hynny’n bosib”.
Mi fydd y gwaith cynnal a chadw yn golygu creu canolbwynt newydd i nyrsys, ynghyd ag ardal benodol i reoli cleifion sydd â phroblemau anadlu.
“Ymddiheuro”
“Mi roedd y llythyr a gafodd ei anfon at staff ddim yn esbonio’n llawn y rheswm y tu ôl i leihau’r nifer o welyau, a hoffwn ymddiheuro i staff, cleifion ac aelodau o’r cyhoedd am y pryder mae hyn wedi’i achosi,” meddai Joe Teape, Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
“Er ei bod yn wir fod yna brinder o ran nifer y staff ar Ward Iorwerth, rydym wedi llwyddo i lenwi’r bwlch gyda staff asiant lle mae hynny’n bosib. Y prif reswm ar gyfer y prosiect yw er mwyn adnewyddu’r ward.”