Mae cynllun ynni cymunedol o ogledd Cymru wedi ennill gwobr Brydeinig wrth £20,000.
Nod Gwobr Ashden yw gwobrwyo cynlluniau ynni gwyrdd ledled y byd, ac eleni mae cynllun ‘Energy Local CIC’ ymhlith y buddugwyr.
Cafodd prosiect cyntaf y cynllun ei sefydlu yng ngogledd Gwynedd yn 2016, gyda’r nod o ddarparu ynni gwyrdd i drigolion lleol.
A bellach mae Energy Local CIC yn darparu ynni i dai ym Methesda, Tregarth, Rachub a Mynydd Llandegai. Daw trydan y cymunedau o eneradur Hydro ar Afon Berthen.
Bydd y cynllun yn derbyn gwobr ariannol hyd at £20,000, ac yn derbyn cymorth gan elusen Ashden – sydd wedi’i lleoli yn Llundain – i ehangu ymhellach.