Mae cynlluniau posib gan Gyngor Sir y Fflint i roi’r gorau i gludo disgyblion am ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg y sir, wedi eu beirniadu.
Y bwriad yw arbed tua hanner miliwn o bunnau’r flwyddyn.
Ond mae un o gynghorwyr y sir wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn “llawn braw” am y sefyllfa ac yn credu y bydd “creu costau ychwanegol i rieni yn creu rhwystr i fwy o blant fynd i ysgolion Cymraeg”.
Ac mae ymgyrchwyr iaith yn rhybuddio y byddai cael gwared ar fysus am ddim i ysgolion Cymraeg, yn ergyd i Lywodraeth Cymru wrth iddi geisio ehangu addysg Gymraeg, er mwyn creu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Yr wythnos nesaf bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn trafod cynnwys adroddiad gan swyddogion sy’n cynnig tri dewis – diddymu cludiant am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, gofyn i blant dalu am gludiant neu gadw’r drefn bresennol,
“Cwbl anaddas”
Mae’r Cynghorydd Tudor Jones, sy’n aelod o Bwyllgor Craffu Addysg y cyngor, yn anghydweld â’r argymhellion.
“Mae cymaint o waith yn cael ei wneud i ddenu mwy o ddisgyblion i addysg Gymraeg o ddalgylch llydan iawn, felly mi fydd creu costau ychwanegol i rieni yn creu rhwystr i fwy o blant fynd i ysgolion Cymraeg,” meddai Tudor Jones wrth golwg360.
“Gyda gobeithion Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n gwbl anaddas i hyd yn oed gysidro’r fath beth.”
“Cam gwag anferthol”
Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi lambastio’r ffaith fod Cyngor Sir y Fflint yn ystyried cael gwared ar gludiant am ddim i ysgolion Cymraeg y sir.
“Gwyddom fod pwysau ariannol aruthrol ar Awdurdodau Lleol. Fodd bynnag, byddai dileu cludiant am ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gam gwag anferthol. Mae UCAC o’r farn bod y ffaith ei fod dan drafodaeth hyd yn oed yn gwbl annerbyniol,” meddai Dilwyn Roberts-Young, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.
“Mae Mesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn rhoi dyletswydd ar bob awdurdod lleol i ‘hyrwyddo mynediad at addysg trwy gyfrwng y Gymraeg’.
“Mi fyddai dileu’r cludiant yn mynd yn groes i’r gofyniad statudol hwn ac yn creu rhwystrau gwirioneddol i ddisgyblion rhag cyrraedd addysg cyfrwng Cymraeg.
“Y canlyniad amlwg yw y bydd nifer o ddisgyblion yn cael eu gorfodi i fynychu ysgol cyfrwng Saesneg agosach at adref, gan eu hamddifadu o addysg yn eu mamiaith, neu yn achos disgyblion o gartrefi di-Gymraeg, yn eu hamddifadu o’r hawl i ddod yn ddinasyddion hyderus a naturiol ddwyieithog.
“Byddai hynny’n ergyd uniongyrchol yn erbyn polisi Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Mae’r cam hwn gan Sir y Fflint yn arwydd eu bod yn gwbl ‘despret’ o safbwynt cyllidebol. Os felly, mae’n bryd i ni gael trafodaeth ar lefel genedlaethol ynghylch lefelau a dulliau ariannu’r system addysg.”
“Camwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg”
Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi beirniadu’r cynllun , gan ddweud y bydd yn effeithio nid yn unig ar y Gymraeg, ond hefyd “o ran cyfiawnder cymdeithasol yn ehangach”.
“Pe bai’r cyngor yn ceisio bwrw ymlaen, dw i’n meddwl y byddai yna achos clir eu bod wedi camwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg, ac felly eu bod yn gweithredu’n groes i’r gyfraith,” meddai Tamsin Davies.
“Byddai hefyd yn effeithio ar allu’r sir i gyrraedd targedau o ran ehangu a normaleiddio addysg Gymraeg ar y llwybr i filiwn o siaradwyr Cymraeg.
“Dylai addysg Gymraeg fod yn hawl i bawb – o bob cefndir – ym mhob rhan o’r wlad.”
Yn ôl Cyngor Sir y Fflint fe fyddan nhw yn ystyried unrhyw newidiadau yn ofalus, a byddai effaith y newidiadau ar deuluoedd gydag incwm isel ac sydd â mwy nag un plentyn yn cael ei asesu.
“Siom o’r mwyaf”
Mewn llythyr ar Arweinydd Cyngor Sir Y Fflint, dywed Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) ei bod yn “siom o’r mwyaf” bod y mater yn cael ei ystyried, gan ychwanegu y dylai’r peryglon fod “yn ddigon hysbys i bawb”.
Maen nhw hefyd yn dweud bod y cynnig yn mynd yn erbyn y gyfraith a pholisi addysg y sir, yn enwedig wrth hyrwyddo mynediad at addysg Gymraeg.
“Rhaid i Awdurdodau Lleol berchnogi’r cyfrifoldeb o sicrhau bod addysg Gymraeg yn hygyrch ac mor hwylus â phosib i bawb sy’n dymuno manteisio arni,” meddai Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG.
“Mae darparu cludiant am ddim yn allweddol i sicrhau cydraddoldeb i addysg Gymraeg, gan fod y pellteroedd y mae’n rhaid i ddisgyblion deithio gymaint yn fwy.
“Mae cludiant am ddim yn unioni’r cam hwnnw.”
“Hynod o niweidiol”
Mae Aelod Cynulliad lleol, Llŷr Huws Gruffydd, hefyd wedi beirniadu’r Cyngor, gan ddweud y bydd bwrw ymlaen â’r cynllun yn “hynod o niweidiol” i addysg Gymraeg y sir.
Mae hefyd yn dweud bod yna “ddiffyg arweinyddiaeth a diffyg ymroddiad” wedi bod yn yr awdurdod ers rhai blynyddoedd o ran ehangu addysg Gymraeg.
“Dylai hyn fynd i’r bin a dw i’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dangos arweiniad cliriach er mwyn i siroedd ddeall fod angen ehangu addysg Gymraeg nid ei danseilio,” meddai.
“Os yw’r Llywodraeth yma o ddifri’ am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bydd y twf y dod mewn ardaloedd fel Sir y Fflint.
“Mae cynlluniau fel hyn yn gwbl groes i’r amcan yna.”