Mae 90% o ddiffoddwyr tân Gorllewin Canolbarth Lloegr o blaid streicio tros gytundebau diffoddwyr newydd yr ardal.
Mae Undeb y Brigadau Tân wedi annog awdurdod tân yr ardal i dynnu’r cytundebau’n ôl neu wynebu’r posibilrwydd o streic.
Derbyniodd oddeutu 1,100 o aelodau’r undeb bapur pleidleisio. O blith yr 82% a bleidleisiodd, roedd 90% o’r rheiny o blaid streicio.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Matt Wrack fod y canlyniad yn un “ysgubol”, gan ddangos “teimladau cryf ymhlith diffoddwyr tân a staff rheoli argyfyngau yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr”.
Galwodd am “lechen lân” a chefnu ar y cytundebau fel ag y maen nhw ar hyn o bryd a gwrando ar anghenion y diffoddwyr.
Dywedodd cadeirydd cangen yr undeb yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, Andrew Scattergood fod y cynnig yn “gwbl annerbyniol”.
Yn ôl yr undeb, mae’r cytundebau’n “ecsbloetio” diffoddwyr tân, gan roi pwysau ychwanegol ar ddiffoddwyr newydd wrth orfod cwblhau gwaith y tu allan i’w dyletswyddau disgwyliedig.