Mae Ysgrifennydd Tramor llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi datgan y bydd yn “cyfrannu rhagor” o filwyr er mwyn cynorthwyo yn rhyfel cartref Yemen.

Fe fydd milwyr o wledydd Prydain, meddai, yn darparu “gwybodaeth, cyngor a chymorth” er mwyn helpu Sawdi Arabia i ddelio â bygythiad o du gwrthryfelwyr Houthi.

Ond dyw hyn ddim yn golygu y bydd y milwyr yn cynnal cyrchoedd awyr, nac yn derbyn cyfarwyddiadau gan Sawdi Arabia, meddai Boris Johnson.

Gwrthryfel

Fe ddechreuodd y gwrthryfel yn Yemen yn 2015, a hyd yma mae miloedd o bobol wedi marw.

Mae yn ddau brif garfan ynghlwm â’r brwydro, sef cynghrair Sawdi Arabia – grŵp sy’n ceisio cefnogi llywodraeth Yemen – a’r Houthi – gwrthryfelwyr sydd â chefnogaeth Iran.

“Mae atal ymosodiadau taflegrau’r Houthi yn ein budd ni,” meddai Boris Johnson. “Mae’r ymosodiadau yma yn dwysáu’r gwrthdaro, ac yn gwaethygu’r sefyllfa ddyngarol.”