Bron i flwyddyn ers y tan yn Nhŵr Grenfell yn Llundain, fe fydd ymchwiliad cyhoeddus i’r trychineb yn agor heddiw.
Yn ystod y gwrandawiadau cyntaf, mae disgwyl i deuluoedd a ffrindiau gofio’r 71 o bobol fu farw yn y digwyddiad yng ngorllewin Llundain ar Fehefin 14 y llynedd.
Syr Martin Moore-Bick, barnwr sydd wedi ymddeol, sydd yn cadeirio’r ymchwiliad.
Yn dilyn misoedd o ymgyrchu, mae grwpiau fel Grenfell United, Justice 4 Grenfell a Humanity 4 Grenfell wedi llwyddo i sicrhau bod panel amrywiol yn ymuno â Syr Martin Moore-Bick.
Yn ystod pythefnos cyntaf yr ymchwiliad, mae disgwyl i’r gwrandawiad glywed fideos a datganiadau gan y rhai a gollodd anwyliaid yn y tân. Fe fydd mwy na 500 o bobol yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad sy’n ceisio darganfod sut yr oedd y trychineb wedi digwydd.