Fe fydd Sbaen yn parhau i reoli Catalwnia yn llwyr tra bod carcharorion yn parhau’n aelodau o lywodraeth Catalwnia, meddai Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy.
Mae arweinydd newydd Catalwnia, Quim Torra wedi corddi’r dyfroedd drwy gynnwys nifer o wleidyddion yn ei gabinet sydd naill ai’n aros i wynebu achos llys neu yn y carchar ar gyhuddiadau’n ymwneud â refferendwm annibyniaeth y wlad.
Mae Llywodraeth Sbaen wedi cyhuddo Quim Torra o’u “pryfocio” yn sgil ei gyhoeddiad.
Yn dilyn etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr, mae gan bleidiau o blad annibyniaeth fwyafrif yn y llywodraeth, ond dydy hi ddim wedi bod yn bosibl enwi llywodraeth sydd at ddant Sbaen.
Yn ôl Mariano Rajoy, fe fydd yn barod i ddychwelyd pwerau i Gatalwnia pan fydd yn fodlon ar y Cabinet.
Ond ddydd Sadwrn, fe enwodd yr arweinydd newydd Jordi Turull a Josep Rull yn ei Gabinet – a’r ddau yn aros i wynebu achos llys – ynghyd ag Antoni Comin a Lluis Puig i Gordi, dau sydd wedi ffoi i Frwsel rhag yr heddlu.