Mae’r cyn-Ysgrifennydd Tramor, David Miliband, wedi annog Aelodau Seneddol o bob plaid i gydweithio a gwrthwynebu “Brexit caled”.

“Dw i’n credu bod angen i bobol  ddod at ei gilydd, wrth wynebu tynged posib y Deyrnas Unedig,” meddai mewn cyfweliad ar raglen Today BBC Radio 4.

“Mae’n bosib iawn y cawn ni Brexit caled, ac yn waeth na hynny, mae’n edrych yn fwy tebygol y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.”

Yn ogystal, mae’r cyn-weinidog Llafur wedi cyhuddo gwleidyddion sy’n frwd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, o “beryglu” gwledydd Prydain.

Bydd David Miliband – sydd bellach yn bennaeth ar asiantaeth dyngarol y Pwyllgor Achub Rhyngwladol – yn ymgyrchu â’r cyn-Ddirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, a chadeirydd Pwyllgor y Trysorlys Nicky Morgan o’r Blaid Geidwadol.

Mae David Miliband wedi gwadu ei fod yn bwriadu sefydlu grwp newydd i ymgyrchu ar y mater.