Mae’r Fonesig Sarah Mullally wedi’i derbyn yn swyddogol yn Esgob newydd Llundain – y ddynes gyntaf erioed i gael ei phenodi i’r rôl.
Cafodd ei derbyn i’r swydd yn ffurfiol ar Ddiwrnod Rhyngwladol Nyrsys, a hithau’n arfer bod yn nyrs.
Curodd hi dair gwaith ar ddrws gorllewinol Eglwys Gadeiriol San Paul fel rhan o seremoni draddodiadol.
Yn ei phregeth, siaradodd hi am “ildio i Grist” yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu’r ddinas, yn enwedig troseddau â chyllyll.
Wrth drafod camdrin rhywiol, galwodd hi am greu diwylliant yn yr Eglwys sy’n “herio” y rhai sydd mewn grym ac yn camddefnyddio’r grym hwnnw.