Mae pennaeth banc Barclays wedi derbyn dirwy o bron £650,000 am geisio tanseilio’r broses gwynion o fewn y cwmni.

Mae Jes Satley wedi derbyn y gosb am fethu â gweithredu â “sgil, gofal a diwydrwydd” wrth ymateb i lythyr dienw gan whistleblower a dderbyniodd y cwmni yn 2016.

Roedd wedi ceisio darganfod pwy oedd awdur y llythyr, a oedd yn honni ei fod yn gyfranddaliwr o Barclays.

Roedd y llythyr yn cynnwys nifer o honiadau yn erbyn y cwmni, gan gynnwys rhai’n ymwneud â Jes Staley ei hun.

Ond yn ôl y rheoleiddwyr, ni ddylai’r prif weithredwr fod wedi ymyrryd yn y sefyllfa ei hun, gan y gallai hynny fod wedi ei roi mewn sefyllfa lle nad oedd yn ddiduedd wrth ymateb i’r llythyr.

Roedd y gŵyn yn cael ei ddelio ar y pryd gan wasanaeth y cwmni sy’n delio â chwynion, ond roedd ymyrraeth Jes Staley, meddai’r rheoleiddwyr, yn “gamgymeriad difrifol”.

Eto i gyd, fe ddaeth y ddau gorff rheoleiddio i’r casgliad nad oedd y prif weithredwr wedi derbyn unrhyw fudd personol o’r sefyllfa, a’i fod wedi cydweithredu â nhw yn gynnar yn eu hymchwiliad.

Fe dderbyniodd felly ddiryw llai na’r disgwyl, sef £642,420 – gwerth 10% o’i incwm blynyddol.

Mae Barclays hefyd wedi’u gorfodi i adrodd ar sut maen nhw’n ymdrin â whistleblowers yn y dyfodol.