Mae Syr Alex Ferguson mewn uned gofal dwys ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd.

Cafodd cyn-reolwr Manchester United, sy’n 76 oed, lawdriniaeth ddoe.

Mewn datganiad, dywedodd ei hen glwb: “Mae’r llawdriniaeth wedi mynd yn dda iawn, ond mae arno angen cyfnod o ofal dwys i helpu ei adferiad. Mae ei deulu’n gofyn am breifatrwydd. Mae pawb yn Manchester United yn anfon ein dymuniadau gorau.”

Mae’r dymuniadau da wedi bod yn llifo iddo o bob cyfeiriad, gan gynnwys clybiau pêl-droed ledled Lloegr a’r Alban, Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, a’r pencampwr Olympaidd Syr Mo Farah.

Alex Ferguson, a ymddeolodd yn 2013, yw un o’r rheolwyr pêl-droed mwyaf llwyddiannus erioed, ar ôl rheoli Manchester United am 26 mlynedd.