Mae cyn-Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, yr Arglwydd Martin wedi marw’n 72 oed.

Fe fu Michael Martin yn sâl am gyfnod byr, meddai ei fab mewn datgniad.

Roedd yn Aelod Seneddol tros Springburn ger Glasgow rhwng 1979 a 2005, ac yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin rhwng 2000 a 2009.

Dadleuol

Er bod Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn cael dyrchafiad awtomatig i Dŷ’r Arglwyddi, roedd y penderfyniad i ddyrchafu’r Arglwydd Martin yn un dadleuol.

Roedd wedi arwain yr ymdrechion i atal treuliau aelodau seneddol rhag cael eu cyhoeddi.

Ef oedd y Llefarydd cyntaf i gael ei orfodi i ymddiswyddo ers tros 300 o flynyddoedd.