Louis Arthur Charles yw enw trydydd plentyn Dug a Duges Caergrawnt.

Cafodd y plentyn ei eni am 11.01 y bore, ddydd Llun (Ebrill 27) yn Llundain, a dim ond pedwar aelod arall o’r teulu sy’n fwy teilwng i’r orsedd nag ef.

Louis yw enw canol ei frawd George, a’i dad, Tywysog William. Hefyd, dyma oedd enw cyntaf yr Arglwydd Mountbatten – ei hen hen ewythr.

Roedd y bwcis yn tybio mai Arthur, James, neu Philip fyddai enw cynta’r plentyn.

Arthur yw enw canol y Tywysog William ac enw canol Brenin Siôr VI – Tad y frenhines.