Mae wedi dod i’r amlwg bod targedau wedi’i gosod gan y Swyddfa Gartref rhai blynyddoedd yn ôl, gyda’r nod o waredu pobol sy’n byw yng ngwledydd Prydain yn anghyfreithlon.
Daw hyn wedi i’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, wadu bod y fath targedau yn bodoli, wrth siarad gerbron Pwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin.
Mae dogfen o 2015 gan Brif Arolygwr Ffiniau a Mewnfudo, yn dweud bod targedau wedi’u gosod ar gyfer “ymadawiadau gwirfoddol” – a hynny i bobol sy’n byw yma yn anghyfreithlon, ac am adael.
“Rhwng 2014/25 (10 mis cyfan), gwnaeth y Swyddfa Gartref osod targedau o 7,200 ymadawiad gwirfoddol – 120 yr wythnos ar gyfartaledd,” meddai’r adroddiad.
Windrush
Mae Yvette Cooper sy’n cadeirio’r pwyllgor yn San Steffan wedi beirniadu ymateb Amber Rudd i’r sefyllfa, ac mi fydd yn galw am “ymateb dechau” ddydd Iau (Ebrill 26).
 sgandal Windrush wedi dod i’r fei – achos o fewnfudwyr cyfreithlon yn cael eu trin fel rhai anghyfreithlon oherwydd methiannau biwrocrataidd – mae polisïau mewnfudo bellach dan y lach.