Mae arweinwyr gwledydd y Gymanwlad wedi penderfynu mai’r tywysog Charles fydd yn olynu’r Frenhines yn bennaeth y sefydliad.

Fe benderfynodd 53 arweinydd o wledydd y Gymanwlad, gan gynnwys Prif Weinidog Prydain, Theresa May, ar y mater mewn uwchgynhadledd yng Nghastell Windsor heddiw (dydd Gwener, Ebrill 20).

Roedd y Frenhines wedi gwneud apêl i’r arweinwyr ddoe, lle dywedodd mai ei “gwir ddymuniad” fyddai gweld ei mab yn ei holynu yn y swydd “rhyw ddydd”.

Croesawu’r newyddion

Ers y cyhoeddiad, mae cadeirydd yr elusen Prince’s Trust, Lloyd Dorfman, wedi croesawu’r newyddion, gan ddweud bod saith allan o’r naw gwlad lle mae elusen y tywysog yn gweithredu o fewn y Gymanwlad, sy’n cynnwys Awstralia, Barbado, Canada ac India.

“Fel pennaeth y Gymanwlad, fe fydd y tywysog yn gallu cynyddu ei waith, gan ddod â phrofiad, doethineb a brwdfrydedd i’r ford,” meddai.

Hawl i ddewis

Er roedd yna ddisgwyl mai’r tywysog Charles fyddai’n cael y swydd, doedd hi ddim yn angenrheidiol i arweinwyr y Gymanwlad ei ddewis e.

Roedd hawl ganddyn nhw ddewis rhywun y tu hwnt i deulu brenhinol Lloegr os oedden nhw wedi dymuno.

Mae’r Frenhines wedi bod yn bennaeth ers iddi esgyn i orsedd Lloegr yn 1952, a hynny ar ôl marwolaeth ei thad a fu’n bennaeth ar y Gymanwlad ers i’r sefydliad gael ei greu yn 1949.

Ymhlith materion eraill sy’n cêl ei drafod yn yr uwchgynhadledd heddiw mae’r amgylchedd, diogelwch seibr a masnach.