Fe fydd cwmni J D Wetherspoon, sy’n rheoli 53 o dafarndai yng Nghymru, yn rhoi’r gorau’n llwyr i’w defnydd o gyfryngau cymdeithasol.
Y rheswm yw camddefnydd o’r gwefannau i ymosod ar wleidyddion a phobol eraill a’r sgandalau diweddar tros gamddefnydd o wybodaeth bersonol gan wasanaethau fel Facebook.
Dyma un o’r camau cyhoeddus mwya’ yn y symudiad yn erbyn gwasanaethau o’r fath.
‘Dim effaith ar fusnes’
Fe fydd y cwmni’n mynd yn groes i’r gred fod gwefannau cymdeithasol yn hanfodol i fusnes llwyddiannus, yn ôl Cadeirydd y cwmni, Tim Martin.
“Dw i ddim yn credu y bydd cau’r cyfrifon yma yn effeithio ar ein busnesau o gwbl,” meddai. “Dyna yw barn mwyafrif llethol rheolwyr ein tafarndai.
“Mae’n dod yn fwy a mwy amlwg fod pobol yn treulio gormod o amser ar Twitter, Instagrama Facebook ac yn cael trafferth i reoli’r ysfa.”
Fe fydd Wetherspoon yn parhau i ddefnyddio gwefan gonfensiynol ac appiau ond fe fydd pob cyfri cymdeithasol ar gyfer pob un o’r 900 o dafarndai sydd ganddyn nhw trwy wledydd Prydain.