Hillsborough: teyrngedau 29 o flynyddoedd wedi’r trychineb

Gwasanaeth yn cynnwys munud o dawelwch am 3.06pm, union amser y trychineb yn 1989

Blodau wrth gofeb i'r 96

Cofeb i’r 96 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl fu farw yn stadiwm Hillsborough yn Sheffield ar Ebrill 15, 1989

Fe fydd dinas Lerpwl yn cofio’r 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl fu farw yn nhrychineb Hillsborough gyda gwasanaeth coffa ddydd Sul.

Mae’n 29 o flynyddoedd union ers y trychineb ar Ebrill 15, 1989 ar ddiwrnod gêm gyn-derfynol Cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest.

Roedd teyrngedau ddydd Sadwrn wrth i Lerpwl herio Bournemouth. Gwisgodd y chwaraewyr fandiau duon am eu breichiau, ac fe greodd y cefnogwyr furlun yn y dorf er mwyn datgelu’r rhif 96.

Heddiw, fe fydd munud o dawelwch am 3.06pm.

Bydd rhaglenni arbennig yn cael eu darlledu ar sianel deledu Clwb Pêl-droed Lerpwl gydol y dydd.

Y flwyddyn nesaf, ar achlysur 30 o flynyddoedd ers y trychineb, fe fydd gwasanaeth coffa arbennig yn cael ei gynnal yn Anfield ar gais y teuluoedd, sydd wedi bod yn ymgyrchu’n ddiflino ers degawdau am gyfiawnder i’w hanwyliaid.

 

← Stori flaenorol

Steve Cooper

Chwaraewyr Abertawe’n “byw yn yr eiliad” cyn y gemau ail gyfle

Y rheolwr Steve Cooper yn edrych ymlaen at rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Brentford

Stori nesaf →

Hefyd →

Cymharu cefnwr de Abertawe â Gareth Bale ifanc

Yn ôl Luke Williams, rheolwr Abertawe, mae gan Josh Key ryddid i symud o amgylch y cae