Pennaeth y Gyngres Iddewig Ewropeaidd yw’r diweddaraf i feirniadu arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn am ei ymdriniaeth o honiadau o wrth-Semitiaeth o fewn y blaid.
Wrth gyhoeddi adroddiad ar wrth-Semitiaeth ar draws y byd, mynegodd Moshe Kantor bryder am agweddau rhai o gefnogwyr yr arweinydd.
Dywedodd eu bod nhw’n euog o “rannu rhai o’r theorïau cynllwyn mwyaf mileinig ynghylch gwadu’r Holocost ac arferion bancio rhyngwladol Iddewon, sy’n ein hatgoffa o Brotocolau Hynafgwyr Seion.
“Mae’n ein harwain i gredu bod normaleiddio casineb at Iddewon wedi cyrraedd ei anterth.”
Daw’r sylwadau ar ôl i blaid Lafur Israel dorri cysylltiadau â Jeremy Corbyn yn sgil y ffrae, gan feirniadu’r “elyniaeth” yn ei agwedd tuag at Iddewon.
Ond mae Jeremy Corbyn yn mynnu ei fod yn gwneud popeth i ddileu’r fath agweddau o fewn y blaid, gan gynnwys cymryd camau cadarn yn erbyn sylwadau neu weithredoedd gwrth-Semitaidd.