Mae merch cyn-ysbïwr Rwsiaidd a gafodd ei gwenwyno yn Salisbury fis diwethaf, wedi cael ei rhyddhau o’r ysbyty.

Cafodd Yulia Skripal, 33, a’i thad, Sergei, eu darganfod yn ymwybodol ar fainc parc ar Fawrth 4, ac mae’r pâr wedi treulio dros fis yn yr ysbyty.

Yn ôl rhai adroddiadau cafodd y ddynes ei rhyddhau ddydd Llun (Ebrill 9), ac mae wedi cael ei throsglwyddo i safle diogel. Mae’r tad yn parhau yn yr ysbyty.

Mae’n debyg mai’r sylwedd Rwsiaidd, Novichok, a gafodd ei ddefnyddio yn yr ymosodiad, ac yn ei sgil mae tensiynau wedi dwysau rhwng Rwsia â’r Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhuddo Rwsia o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad, ond mae Moscow yn gwadu hynny a’n dweud bod Prydain yn “chwarae â thân”.