Mae cerfluniau o anifeiliaid gwyllt wedi cael eu creu gan Barc Cenedlaethol yng Nghymru er mwyn tynnu sylw at faint o sbwriel sydd yn y môr
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro wedi comisiynu pum cerflun er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r problemau mae sbwriel yn y môr yn eu hachosi i fywyd gwyllt.
Mae’r pum model â ffrâm weiren wedi cael eu creu gan yr artist o Aberteifi, Toby Downing, ac maen nhw’n cynnwys tri dolffin, pysgodyn a Llurs (Razorbill) – arwyddlun y Parc Cenedlaethol.
Fe fydd modd eu gweld mewn gwahanol ddigwyddiadau yn Sir Benfro, gan gynnwys sioeau, gweithgareddau glanhau traethau, a digwyddiadau eraill.
“Ysbrydoli pobol”
Yn ôl Rebecca Evans, Swyddog Dehongli y Parc Cenedlaethol, mae eisoes “nifer o wirfoddolwyr” bob blwyddyn yn mynd ati i wella’r broblem sy’n ymwneud â sbwriel yn y môr trwy fynd ati i lanhau’r traethau.
Mae’n dweud hefyd fod yna nifer o gymunedau arfordirol yn ceisio mynd yn ‘ddi-blastig’, ac y bydd y cerfluniau newydd yn “ysbrydoli” mwy o bobol i gymryd y camau hyn.
“Ynghyd â’r mentrau hyn,” meddai, “rydyn ni’n gobeithio bydd y cerfluniau’n helpu i ysbrydoli pobol i wneud dewisiadau gwahanol, fel defnyddio cwpanau a photeli y gellir eu hailddefnyddio, a chasglu sbwriel pan fyddan nhw’n ymweld â thraeth y tro nesaf.”