Mae mam Stephen Lawrence, dyn croenddu 18 oed a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn Llundain yn 1993, wedi galw ar i Heddlu Llundain fod yn onest ynghylch yr ymchwiliad.

Mae’r Farwnes Doreen Lawrence o’r farn na fydd unrhyw un arall yn cael ei arestio mewn perthynas â’i lofruddiaeth chwarter canrif yn ôl.

Mae’r ymchwiliad yn parhau, ond mae hi’n dweud ei bod hi’n credu nad yw’r heddlu’n gwybod sut i fynd â’r achos yn ei flaen bellach. Mae hi hefyd yn dweud bod yr heddlu’n ofni ymateb y cyhoedd pe baen nhw’n dod â’r ymchwiliad i ben.

Dywedodd mewn cyfweliad â’r Daily Mail: “Dw i ddim yn credu bod ganddyn nhw drywydd arall ar gyfer yr ymchwiliad. Maen nhw’n dweud eu bod nhw am barhau i ymchwilio, ond parhau i wneud beth?

“Os ydyn nhw wedi dod i’r pen, dylen nhw fod yn onest, a dweud eu bod nhw wedi dod i ben a rhoi’r gorau iddi.

“Dw i’n credu eu bod nhw’n parhau fel pe bai popeth yn iawn oherwydd dydyn nhw ddim eisiau clywed yr hyn y bydda i’n ei ddweud pe bai’n cael ei stopio.”

Yr ymchwiliad hyd yn hyn

Hyd yn hyn, mae dau o bobol wedi’u cael yn euog mewn perthynas â marwolaeth Stephen Lawrence yn Eltham yn ne-ddwyrain Llundain ar 22 Ebrill, 1993.

Yn 2012, cafwyd Gary Dobson a David Norris yn euog o lofruddiaeth drwy gydweithio ac fe gawson nhw eu carcharu am oes.

Mae’r heddlu’n credu iddo gael ei drywanu i farwolaeth gan griw o hyd at chwech o ddynion yn dilyn ymosodiad am resymau hiliol. Roedd yn aros am fws gyda’i ffrindiau ar y pryd.

Fe wnaeth rhieni Stephen Lawrence ddwyn achos preifat yn erbyn Gary Dobson a David Norris yn 1994.

Yn 1996, daeth achos llys Gary Dobson a dau arall i ben yn gynnar ar ôl i farnwr yn yr Old Bailey wrthod derbyn tystiolaeth.

Yn 1997, daeth cwest i farwolaeth Stephen Lawrence i’r casgliad iddo gael ei ladd yn anghyfreithlon gan bump o bobol.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd Heddlu Llundain eu cyhuddo gan ymchwiliad Syr William Macpherson o hiliaeth, anallu proffesiynol ac arweiniad gwael.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Llundain fod yr ymchwiliad yn parhau, a’u bod yn cysylltu â’r teulu’n gyson.