Mae Aelod Cynulliad UKIP tros Ganol De Cymru, Gareth Bennett wedi dweud y dylai llywodraethau Cymru a San Steffan fod yn “codi pontydd” yn hytrach na ffraeo tros ailenwi Pont Hafren.

Daeth cadarnhad yr wythnos hon fod ail Bont Hafren yn cael ei hailenwi’n Bont Tywysog Cymru i nodi 60 mlynedd ers i’r Tywysog Charles dderbyn y teitl.

Fe fu Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns dan y lach am ddweud fod ailenwi’r bont yn beth “addas” i’w wneud i dalu teyrnged i’r Tywysog Charles.

Ond mae deiseb ar y we yn erbyn y penderfyniad wedi denu miloedd o lofnodion.

‘Ymgais sinigaidd’

Wrth ymateb i’r ffrae, dywedodd Aelod Seneddol UKIP tros Ganol De Cymru, Gareth Bennett: “Yn hytrach na mynd i ffraeo tros enw, dylai Llafur Cymru a’u cydgysgwyr, Plaid Cymru fod yn gweithio i godi pontydd gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau’r Brexit yr oedd pobol Cymru wedi pleidleisio o’i blaid.

“Ynghyd â’u deddfwriaeth ffug ar ‘gipio grym’ bondigrybwyll, bydd pobol Cymru’n gweld hyn am yr hyn ydyw; ymgais sinigaidd gan Blaid Cymru a Llafur Cymru i honni eu bod nhw wedi cael eu trin yn annheg unwaith eto.

“Pleidleisiodd pobol Cymru gyda mwyafrif mawr o blaid Brexit, llawer mwy na’r ychydig rai sy’n dal eu gafael ar obaith yn ofer o ‘Weriniaeth Cymru’.

“Mae’n bryd i’r sefydliad ym Mae Caerdydd a Llundain fwrw ati gyda’u gwaith o ddydd i ddydd a rhoi’r gorau i arddangos eu rhinweddau yn ddibwynt.”