Mae’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (DPP) Alison Saunders wedi wfftio awgrymiadau ei bod yn gadael ei swydd am fod y Llywodraeth wedi gwrthod adnewyddu ei chytundeb.

Mae hi hefyd wedi gwrthod beirniadaeth bod safonau wedi gostwng yn ystod ei phum mlynedd yn arwain Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Dywedodd  Alison Saunders bod y feirniadaeth yn “sarhad” i erlynwyr.

Fe gyhoeddodd y Twrne Cyffredinol Jeremy Wright y bydd Alison Saunders yn gadael ei swydd ym mis Hydref. Fe fydd y dasg o chwilio am ei holynydd yn dechrau’n syth.

Daw ei hymadawiad yn sgil cyfres o achosion dadleuol. Yn ddiweddar fe fethodd nifer o achosion o drais, oherwydd bod tystiolaeth wedi cael ei gyflwyno’n hwyr. Fe arweiniodd hyn at adolygiad o bob achos o drais yn y wlad.

Mae’r Llywodraeth wedi ceisio tawelu’r adroddiadau bod gweinidogion wedi gwrthod ymestyn ei chytundeb. Yn ôl y Daily Telegraph mae ffynhonnell yn Whitehall wedi dweud ei bod “wedi’i wneud yn glir na fyddai ei chytundeb yn cael ei adnewyddu” a bod angen “llechen lan.”

Ond gwadu hynny wnaeth Alison Saunders ar raglen Today ar BBC Radio 4 gan ddweud mai ei phenderfyniad hi oedd gadael y swydd.