Mae “pobol wedi ymateb yn dda ar y cyfan” i’r achos diweddar o wenwyno yn Salisbury, yn ôl yr Esgob Nicholas Holtham.

Daw ei sylwadau yn ei bregeth ar Sul y Pasg, wythnosau ar ôl i’r cyn-ysbïwr Sergei Skripal a’i ferch Yulia Skripal gael eu gwenwyno yno.

“Roedd y gwasanaethau brys yn wych,” meddai’r Esgob. “Mae’r ysbyty wedi gofalu am bawb. Mae’r plismon allan erbyn hyn.

“Mae sôn bod Yulia Skripal yn gwella. Mae ei thad yn dal mewn cyflwr difrifol. Fe fu pryder, pendroni a dicter ond mae pobol y gymuned hon yn wydn.”

‘Diolch’

Dywedodd yr Esgob fod y dref yn codi unwaith eto yn dilyn y digwyddiad.

“Yn wir, fe deimlodd drwy gydol yr wythnos fod y rhai a ddaeth o’r tu allan i Salisbury i fod gyda ni yn yr eglwysi ac eglwys gadeiriol y ddinas hon wedi bod yn gwneud rhywbeth syfrdanol o bwerus i helpu’r ddinas i godi ar ei thraed unwaith eto.

“Os daethoch chi heddiw mewn undod â Salisbury, diolch.”

Dywedodd fod angen “ailadeiladu perthnasau a hyder yn ein gilydd” yn dilyn y digwyddiad, ond fe ychwanegodd fod rhaid gwahaniaethu rhwng y wladwriaeth Rwsiaidd a phobol o Rwsia “sydd am fyw mewn heddwch”.