Mae gwneuthurwyr drama am lofruddiaeth y ferch ysgol Milly Dowler wedi amddiffyn y penderfyniad i’w ffilmio’n agos i gartref ei llofrudd Levi Bellfield.

Yn y ddrama Manhunt, fe fydd Martin Clunes yn chwarae cymeriad y plismon fu’n arwain yr ymchwiliad i lofruddiaeth Amelie Delagrange, 22, yn 2004.

Cafodd Levi Bellfield ei garcharu am 2008 am ei llofruddio hi a Marsha McDonnell, 19, yn 2003.

Cafwyd e’n euog yn ddiweddarach o lofruddio Milly Dowler yn 2002, ac mae wedi’i garcharu am oes.

Mae trigolion lleol yn ardal Walton-on-Thames yn Swydd Surrey wedi beirniadu’r penderfyniad i ffilmio’r ddrama yn yr ardal, yn ôl y Sunday Mirror. Ond dydy’r ddrama ddim yn ymdrin yn benodol â chael Levi Bellfield yn euog o lofruddio Milly Dowler.

Dechreuodd y broses ffilmio y mis yma, ac fe gafodd ei recordio ddydd Mercher  – union 16 o flynyddoedd ers diflaniad Milly Dowler.

Ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu’r rhaglen mae cyn-gariad Levi Bellfield, Jo Collings.

Ymateb ITV

Dywedodd llefarydd ar ran ITV fod pob ymdrech wedi’i wneud i adlewyrchu’r hyn oedd wedi digwydd yn ystod ymchwiliad yr heddlu. “Ac fe gysylltwyd â theuluoedd y dioddefwyr cyn i’r ffilmio ddechrau,” meddai.

Y Ditectif Uwch Arolygydd Colin Sutton oedd wedi arwain yr ymchwiliad i lofruddiaeth Amelie Delagrange.