Mae’r Aelod Seneddol Llafur Yvette Cooper wedi beirniadu’r ffordd y mae arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn wedi ymateb i ffrae tros furlun sy’n cael ei ystyried yn wrth-Semitaidd.

Dywedodd ei bod hi’n cytuno â safbwynt cadeirydd Llafur Iddewig, Luciana Berge fod yr ymateb yn “annigonol” a’i fod yn dangos nad yw’n deall “y loes sy’n cael ei deimlo”.

Roedd Jeremy Corbyn wedi ymateb i neges ar wefan gymdeithasol Facebook gan yr arlunydd Mear One ynghylch cynllun i baentio dros furlun dadleuol yn nwyrain Llundain.

‘Camgymeriad’

Mae’r pwysau’n cynyddu ar Jeremy Corbyn heddiw, yn enwedig yn sgil y penderfyniad i ddiswyddo llefarydd Gogledd Iwerddon, Owen Smith o’i gabinet cysgodol.

Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Bontypridd mai “camgymeriad” oedd y penderfyniad i’w ddiswyddo am ei fod yn cefnogi Brexit.

Ond mae’n gwrthod y safbwynt mai agwedd “Stalinaidd” sydd y tu cefn i’r penderfyniad.

Dywedodd wrth raglen Today y BBC fod Jeremy Corbyn “wedi deall gwerth pobol yn sefyll dros eu hegwyddorion erioed”.

Wrth gyfeirio at y ffrae tros y murlun, ychwanegodd Owen Smith: “Mae unrhyw gyhuddiad o wrth-Semitiaeth yn eithriadol o bwysig.

“Y darn celf stryd… dw i wedi ei weld e ac mae’n waith ofnadwy ac angenfilaidd.”