Gwledydd Prydain sydd â’r nifer mwyaf o bobol yn y carchar na’r un wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae bron i 100,000 dan glo yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ôl adroddiad newydd.
Mae ffigurau ar gyfer y flwyddyn 2016 yn dangos fod 94,291 o unigolion yn y carchar neu wedi’u dal dan reolau mewnfudo yn y Deyrnas Gyfunol.
O blith y 40 gwlad a gymrodd ran yn yr ymchwil a gyhoeddwyd gan Gyngor Ewrop, dim ond Twrci oedd â mwy o garcharorion, gyda 192,627 yn treulio cyfnodau dan glo yn y wlad honno.
Dywed yr astudiaeth fod 85,134 o garcharorion yng Nghymru a Lloegr ar ddiwedd Mehefin 2016, tra bod gan Ogledd Iwerddon a’r Alban 1,500 a 7,657 yn y drefn honno ym mis Medi yr un flwyddyn.