Mae pedoffeil mwyaf nodedig Prydain, a oedd wedi cyfaddef i 137 o droseddau, wedi cael ei garcharu am 32 mlynedd.

Roedd Dr Matthew Falder, 29 oed, a raddiodd o Brifysgol Caergrawnt, wedi cyfaddef i’r troseddau a oedd yn cynnwys blacmel, foyeuriaeth, ac annog treisio plentyn, mewn cysylltiad â 46 o achwynwyr.

Cafodd ei arestio ym mis Mehefin y llynedd yn dilyn ymchwiliad rhyngwladol gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).

Roedd tri o’i ddioddefwyr wedi ceisio lladd eu hunain.

Roedd Matthew Falder wedi rhoi camerâu cudd mewn toiledau cyhoeddus gan ddefnyddio’r lluniau i flacmelio pobl a’u rhoi ar-lein i rannu gydag eraill. Roedd hefyd wedi annog pobl ifanc i anfon lluniau anweddus ato.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Philip Parker QC bod Matthew Falder yn berson “sadistig” a oedd eisiau “rheolaeth lwyr” dros ei ddioddefwyr ifanc.