Mae dyn oedrannus wedi marw ac mae dyn arall mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn tân mewn cartref gofal yn Swydd Hertford.

Mae lle i gredu bod silindr nwy wedi ffrwydro yn y cartref yn Stevenage am 4.30 brynhawn dydd Sadwrn.

Roedd y dyn fu farw yn ei ystafell pan ddechreuodd y tân.

Mae pump o bobol eraill yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Fe fydd y Cyngor Sir yn cynnal ymchwiliad.

Mae’r preswyliaid wedi cael eu symud i gartref dros dro.