Mae’r dadansoddiad diweddaraf o effeithiau Brexit yn awgrymu y bydd pethau’n waeth ar wledydd Prydain – os bydd dêl yn cael ei tharo â Brwsel ai peidio.

Mae’n debyg bod asesiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd wedi dod i law gwefan BuzzFeed News, yn awgrymu y byddai twf economaidd yn arafach.

Pe bai’r Deyrnas Unedig yn medru diogelu dêl fasnach rydd gynhwysfawr â’r Undeb Ewropeaidd, mi fyddai twf yn cwympo 15% dros y 15 blynedd nesaf, yn ôl yr asesiad.

A phe byddai Prydain yn gadael heb ddêl, gan ddibynnu ar reolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO), byddai twf yn disgyn 8% dros yr un cyfnod.

Trwy aros yn y Farchnad Sengl byddai Prydain yn profi cwymp o 2%.

Cyhoeddi’r asesiad

Bellach mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, yn wynebu galwadau gan y gwrthbleidiau  i gyhoeddi’r asesiad yn ei gyfanrwydd.

Gan ymateb i ryddhad y ddogfen i’r wasg, mae ffynhonnell o fewn y Llywodraeth yn San Steffan wedi dweud bod swyddogion yn parhau i gynnal “ystod eang o ddadansoddiadau”.