Mae dau ddyn o Brydain wedi marw wrth sgïo yn yr Alpau yn Ffrainc.
Roedd y ddau ar wyliau yn Chamonix-Mont-Blanc ac yn sgïo oddi ar y llethrau swyddogol pan wnaethon nhw syrthio “cannoedd o fetrau” fore dydd Sul, meddai timau achub.
Roedd y ddau ddyn yn 25 oed ac yn sgïo gyda pherson arall pan gawson nhw eu lladd.
Roedd y trydydd dyn, sydd hefyd yn dod o Brydain wedi galw am gymorth tua 11yb ac fe gyrhaeddodd timau achub o fewn tua 10 munud ond roedd y ddau ddyn wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae’r Swyddfa Dramor wedi dweud eu bod yn rhoi cymorth i’w teuluoedd.