Mae mwy nag 20,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw ar bennaeth cystadleuaeth ddartiau’r PDC i gadw’r merched sy’n cyrchu’r chwaraewyr i’r llwyfan.

Fe ddaeth cyhoeddiad yr wythnos hon fod pennaeth dartiau’r PDC, Barry Hearn yn dod â’r arfer i ben.

Mae’r penderfyniad wedi hollti barn y chwaraewyr, gyda rhai fel Michael van Gerwen yn croesawu’r penderfyniad, ond eraill fel Raymond van Barneveld yn mynegi eu siom a chydymdeimlad â’r merched fydd yn colli eu swyddi.

Mae’n golygu na fydd y merched i’w gweld pan fydd yr Uwch Gynghrair Dartiau’n dod i Gaerdydd nos Iau, Chwefror 8 – a’r ddau Iseldirwr, a’r Cymro Gerwyn Price, ymhlith yr wyth chwaraewr fydd yn cystadlu ar y noson.

Mae’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon i Ferched wedi “cymeradwyo” penderfyniad y PDC (Corfforaeth Ddartiau Proffesiynol), ac wedi galw ar gampau eraill fel rasio ceir, paffio a seiclo i ddilyn eu hesiampl.

Mae’r byd Fformiwla 1 (rasio ceir) yn ystyried dileu’r arfer o ferched yn cyrchu’r gyrwyr i’r grid cyn ras.

Deiseb

Yn dilyn y cyhoeddiad, cafodd deiseb ei sefydlu gan David Shaw o Leighton Buzzard yn dweud bod “cyrchwyr benywaidd yn y byd dartiau’n draddodiad ers blynyddoedd” ac y byddai’n golygu bod y “merched allan o waith”.

Mae’r ddeiseb yn dwyn y teitl ‘Dw i eisiau cynnal traddodiad dartiau a chadw’r merched mewn swyddi’.

Mae David Shaw yn gobeithio denu hyd at 25,000 o lofnodion ar wefan www.change.org. Erbyn neithiwr, roedd y nifer dros 22,000.

Bydd yn cael ei chyflwyno i Barry Hearn maes o law.

Uwch Gynghrair Dartiau yng Nghaerdydd

Bydd Arena Motorpoint Caerdydd yn cynnal yr ail noson o ddartiau ar Chwefror 8 (yn dechrau am 7 o’r gloch ac yn fyw ar Sky Sports).

Dyma restr lawn o’r gemau:

Michael Smith v Daryl Gurney

Rob Cross v Simon Whitlock

Michael van Gerwen v Peter Wright

Gerwyn Price v Gary Anderson

Raymond van Barneveld v Mensur Suljovic