Hyd yma mae ymdrechion yr heddlu i geisio dod o hyd i beilot coll wedi costio £2.1 miliwn.

Diflannodd Corrie McKeague ar ôl noson allan gyda’i ffrindiau yn Bury St Edmunds, Suffolk, ar Fedi 2016.

Yn ôl Heddlu Suffolk mae’r ymchwiliad wedi costio £2.1 miliwn hyd yn hyn, ac mae swyddogion wedi treulio 34,000 awr yn gweithio ar yr achos.

Bu chwilio ofer am beilot yr RAF ar safle tirlenwi ger Caergrawnt y llynedd.

Y gred yw bod Corrie McKeague wedi dringo mewn i fin ysbwriel, a’i fod wedi ei gludo yn y bin i safle tirlenwi. Mae Heddlu Suffolk yn dweud eu bod “wedi ymrwymo i barhau â’r ymchwiliad”.