Fe fydd David Davis yn ceisio lleddfu pryderon Ceidwadwyr, sydd o blaid gadael Ewrop, ynglŷn â’r trefniadau masnach ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Brexit fynnu y bydd gwledydd Prydain yn gallu arwyddo cytundebau masnach gyda gwledydd eraill yn y cyfnod trosglwyddo ar ôl gadael yr UE ym mis Mawrth 2019.
Daw hyn ar ôl i Downing Street wrthod sylwadau’r Canghellor Philip Hammond yn Fforwm Economaidd y Byd yn Davos. Roedd wedi dweud ei fod yn gobeithio y byddai Brexit yn golygu bod y DU a’r UE yn symud ar wahân yn “weddol gymedrol” o ran masnach.
Wrth rybuddio am y rhwygiadau o fewn y Blaid Geidwadol, mae’r Ceidwadwr dylanwadol, Jacob Rees-Mogg, sydd o blaid Brexit, wedi annog gweinidogion i beidio ofni symud oddi wrth yr UE.
Fe fydd David Davis yn mynnu y bydd y Deyrnas Unedig yn gallu gweithredu’n annibynnol i sicrhau cytundebau masnach newydd ar draws y byd er gwaetha’r ffaith y bydd yn gorfod cadw at reolau Brwsel yn ystod y cyfnod trosglwyddo a fydd yn para tua dwy flynedd.
Fe fyddai unrhyw gytundebau yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod trosglwyddo.