Mae angen i fuddsoddwyr ariannol ystyried effaith gymdeithasol cwmnïau technegol cyn rhoi arian iddyn nhw, yn ôl Theresa May.
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog roi pwysau ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol mewn araith heddiw yn y Fforwm Economaidd Rhyngwladol yn Davos, y Swistir.
Bydd yn dweud bod angen i’r cwmnïau mawrion sicrhau bod eu gwefannau ddim yn cael eu defnyddio fel propaganda brawychiaeth a phlatfform i gam-drin plant.
Mae disgwyl iddi hefyd gwrdd â Donald Trump yn y gynhadledd am y tro cyntaf ers i’r ddau gwrthdaro pan wnaeth yr Arlywydd ail-drydar fideos y grŵp asgell-dde eithafol, Britain First.
Bydd y Prif Weinidog yn addo i roi blaenoriaeth i’r ymdrech i wella bywydau pobol gyda thechnoleg newydd fel deallusrwydd artiffisial.
Ond bydd yn rhybuddio cwmnïau bod ganddyn nhw gyfrifoldeb i gymdeithas a’u bod mewn perygl o gael eu hadnabod fel “platfform i frawychwyr” neu’r “dewis cyntaf i bedoffiliaid”.