Fe fydd teulu dynes fu farw mewn gwrthdrawiad lori ludw yn Glasgow yn 2014 yn derbyn iawndal gan Gyngor Dinas Glasgow.

Roedd Gillian Ewing, 52 oed o Gaeredin, ymhlith pump o bobol a gafodd eu lladd.

Bu farw Jacqueline Morton (51), Stephanie Tait (29), Erin McQuade (18), Jack Sweeney (68) a’i wraig Lorraine (69) yn y digwyddiad.

Yn ôl y Scottish Sun, £800,000 yw’r swm sydd wedi’i gytuno.

Aeth y gyrrwr Harry Clarke yn anymwybodol wrth y llyw cyn y gwrthdrawiad.