Mae dyn wedi marw ar ol syrthio 50 troedfedd i mewn i ffos ar safle adeiladu yn Canary Wharf, Llundain.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Bank Street toc cyn 9yb heddiw, wedi i weithwyr ddod o hyd i gorff.

Mae heddlu Scotland Yard yn dweud nad adeiladwr oedd y dyn sydd wedi’i ladd, a bod ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un “heb eglurhad”.

Mae Brigad Dân Llundain wedi rhyddhau datganiad yn dweud fod y corff wedi’i ganfod ar safle adeilad newydd, gan gadarnhau fod y dyn wedi syrthio 50 troedfedd.

Yn ol Gwasanaeth Ambiwlans Llundain, roedd y dyn wedi marw cyn iddyn nhw gyrraedd.