Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi ei watwar gan ymgyrchwyr undebol heddiw wrth ddatgan na ddylen nhw streicio dros ddiwygiadau i bensiynau yn y sector gyhoeddus.
Mewn araith o flaen Cyngres y TUC yn Llundain, dywedodd ei fod yn deall bod miliynau o weithwyr yn anhapus â’r newidiadau.
“Ond tra bod y trafodaethau yn parhau rydw i’n credu ei fod yn gamgymeriad streicio,” meddai.
“Beth sydd ei angen nawr yw rhagor o drafod er mwyn atal anghydfod diwydiannol mawr yn ystod yr hydref.”
Gwaeddodd rhai o’r 300 o gynrychiolwyr undebol “cywilydd!” a “gwarth!” wrth i arweinydd y Blaid Lafur areithio.
Ond derbyniodd gymeradwyaeth am ddweud fod angen talu cyflog teg i bobol ifanc, ac am ddweud fod cyflogau prif weithredwyr yn rhy uchel.