Mae seryddwyr yn credu eu bod wedi darganfod ail blaned y tu allan i gysawd yr haul allai gynnal bywyd.
Ond, fe fyddai’r blaned yn teimlo fel bath wedi stemio, yn ludiog ac anghyfforddus.
Fe wnaeth seryddwyr Ewropeaidd gyhoeddi’r darganfyddiad, ynghyd â 50 o blanedau eraill y tu allan i gysawd yr haul, mewn cynhadledd yn yr Unol Daleithiau.
Mae’r ail blaned wedi’i lleoli yn yr hyn y mae gwyddonwyr yn ei alw’n “Goldilocks zone” – amgylchedd allai gynnal bywyd. Dyw’r blaned ddim yn rhy boeth a ddim rhy oer i hylif fod yn bresennol, sy’n hanfodol ar gyfer bywyd.
Mae’r blaned newydd sy’n cael ei galw’n HD85512b tua 35 o flynyddoedd golau i ffwrdd o’r ddaear yng nghlwstwr Vela. Mae pob blwyddyn olau yn 5.8 triliwn o filltiroedd. Dim ond 60 diwrnod yw blwyddyn yno.
I’r blaned fod yn addas ar gyfer bywyd, yn ôl seryddwyr, mae o leiaf 60% ohono’n gorfod cael ei gorchuddio mewn cymylau.
Mae haul y blaned tua 1,000C yn oerach na haul y ddaear.