Fe fydd na olygfa annisgwyl yn nghanol Caerdydd heddiw er mwyn tynnu sylw at ymgyrch newydd i ddelio a thrais yn y cartref.
Fe fydd rhesi o leiniau dillad yn cael eu defnyddio i lawnsio’r ymgyrch “Byw Heb Ofn” – yr ymgyrch ddiweddara’ gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth a herio agweddau tuag at trais yn y cartref yng Nghymru.
Fe fydd crysau-T yn cael eu rhoi ar y leiniau dillad gyda delweddau a sylwadau wedi eu creu gan rai sy wedi dioddef trais yn y cartref yng Nghymru. Mae pob crys-T yn dangos eu profiadau nhw o drais yn y cartref a sut roedd yn gwneud iddyn nhw deimlo.
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant fu’n lansio’r ymgyrch a dywedodd: “Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud cymaint ag y gall i helpu dioddefwyr trais yn y cartref a sicrhau eu bod nhw’n cael cefnogaeth ac yn gallu byw’n ddiogel o fewn eu cymunedau.”
Ychwanegodd eu bod wedi cymryd camau breision ers dechrau’r ymgyrch chwe blynedd yn ôl ond bod angen gwneud rhagor o waith gyda’u partneriaid er mwyn sicrhau bod pobl yn cael yr help a’r cefnogaeth sydd ei angen.
Dywedodd: “Mae trais yn y cartref yn effeithio nifer o fywydau ond oherwydd ei fod yn digwydd tu ôl i ddrysau caeedig, yn aml mae’n cael ei anwybyddu. Mae’r ymgyrch ddiweddaraf yma yn taflu goleuni ar yr effaith mae trais yn y cartref yn ei gael ac yn ceisio herio agweddau pobl.
“Rydan ni’n gobeithio y bydd yr ymgyrch yn lledaenu’r neges nad yw trais yn y cartref yn dderbyniol ac y bydd dioddefwyr yn teimlo’n fwy hyderus y gallen nhw geisio cael help a chefnogaeth. Rydw i’n benderfynol o wneud popeth yn fy ngallu i wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod rhif ffon llinell gymorth trais yn y cartref yng Nghymru sef 0808 8010 800.”