Robot Prifysgol Aberystwyth
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi enwebu robot ar gyfer cario’r Fflam Olympaidd cyn gemau Olympaidd Llundain 2012.

Enwebwyd yr iCub gan Dr James Law o Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol er mwyn nodi canmlwyddiant genedigaeth Alan Turing, tad cyfrifiadureg fodern, yn 2012.

Mae’r iCub, robot dynolffurf tebyg i blentyn yn rhan o brosiect ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd yn astudio prosesau dysgu mewn plant ifanc er mwyn eu trosglwyddo i strategaethau dysgu mewn robotiaid.

“2012 fydd canmlwyddiant geni Alan Turing, sefydlydd cyfrifiadureg ac aelod hollbwysig o’r ymdrechion i dorri’r côd yn ystod yr Ail Ryfel Byd,” meddai James Law.

“Byddai i robot gario’r fflam yn deyrnged briodol iawn i Alan Turing ac yn ysbrydoliaeth i genedlaethau a ddaw o wyddonwyr a pheirianwyr.

“Mae Alan Turing yn adnabyddus am ei waith yn datblygu technegau cyfrifiadurol ar gyfer torri côd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond rhan fach yn unig oedd hwn o’i waith sydd wir yn ysbrydoli.

“Ef greodd un o’r dyluniadau cyntaf o gyfrifiadur sydd â rhaglen wedi ei chofnodi arno a gosododd y seiliau ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial. Mae’r hyn a gyflawnodd wedi arwain at y byd llawn cyfrifiaduron yr ydym yn byw ynddo heddiw, a pharatoi’r ffordd i’r gwaith ymchwil roboteg sydd yn cael ei wneud yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.”

Prynwyd yr iCub gan y Grŵp Roboteg Ddatblygiadol yn Aberystwyth fel rhan o gynllun “IM-CLeVeR” – Intrinsically Motivated Cumulative Learning Versatile Robots, a’r nod medden nhw yw datblygu rheolyddion robot newydd sydd yn seiliedig ar syniadau a ysbrydolwyd gan niwrowyddoniaeth a seicoleg.