Mae Sŵ Llundain wedi agor ei ddrysau unwaith eto heddiw yn dilyn y tân ddoe (Rhagfyr 23) a laddodd faedd daear a phedwar o fôr-gathod.
Mae archwiliad post-mortem wedi dangos bod Misha y baedd daear wedi marw o ganlyniad i anadlu mwg tra ei bod hi’n cysgu.
Digwyddodd y tân am oddeutu 6 o’r gloch y bore, gan ddifetha caffi, siop a hanner y sŵ anwes.
Cafodd y sŵ ei gau am weddill y dydd, ac fe fu’n rhaid canslo ymweliadau â Siôn Corn.
Ymchwiliad
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y sŵ eu bod “yn torri eu calonnau” yn dilyn marwolaeth Misha.
Cafodd anifeiliaid eu symud wrth i ddiffoddwyr tân geisio rheoli’r fflamau, a chafodd staff driniaeth am effeithiau mwg a man anafiadau.
Mae ymchwiliad ar y gweill.