Mae’r cwmni archfarchnad Tesco wedi addo sicrhau na fydd unrhyw fwyd sy’n addas i’w fwyta yn cael ei wastraffu o fis Chwefror ymlaen.

Gan gydnabod bod y swm o fwyd sy’n cael ei wastraffu yn “wirioneddol enbyd”, dywed y prif weithredwr Dave Lewis y bydd pob un o’r 2,654 o siopau’r cwmni ym Mhrydain yn cymryd rhan yn y gwaith o fynd i’r afael â’r broblem.

Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n gwerthu eitemau ar ddisgownt, ac mae wedi sefydlu cynllun lle mae pethau heb eu gwerthu’n cael eu rhoi i elusennau lleol.

“Fe wnaethon ni werthu 10 miliwn tunnell o fwyd i’r cyhoedd ym Mhrydain y llynedd,” meddai Dave Lewis. “Ond hyd yn oed os nad yw ein gwastraff ond 0.7% o’r bwyd, mae’n dal i fod yn 70,000 tunnell.

“Cyn belled â bod y bwyd hwnnw’n iawn i’w fwyta, fe fyddai’n llawer gwell gen i iddo fynd i bobl nag i safleoedd tirlenwi, neu fwyd anifeiliaid neu danwydd.

“Os gall Tesco wneud i hyn weithio, gyda’n holl wahanol siopau ledled y wlad, yna pam na all pawb?”