Bydd troseddwyr yn cael eu rhwystro rhag cymryd meddiant o ludw’r bobol y maen nhw wedi troseddu yn eu herbyn, dan reolau newydd.
Yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder, Phillip Lee, er bod achosion o hyn yn “brin iawn” bydd y rheolau newydd yn sicrhau bod modd gorfodi troseddwyr i ildio’r lludw.
Bydd y diwygiadau sydd wedi eu cyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn golygu bod modd llenwi ffurflenni amlosgi trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf.
“Achosion prin”
“Mae yna achosion prin le mae ‘na gysylltiad wedi bod rhwng [perchennog y lludw] a’r person sydd wedi ei amlosgi,” meddai Phillip Lee mewn datganiad.
“Weithiau mae [perchnogion y lludw] wedi cael eu barnu’n euog o drosedd treisgar yn erbyn teulu’r meirw, ac wedi gwrthod ag ildio’r lludw i deuluoedd y meirw.
“I fynd i’r afael â hyn, mae’r rheoliadau yn galluogi’r awdurdod amlosgi – mewn sefyllfaoedd eithriadol – i beidio rhoi’r lludw i’r unigolyn sydd wedi anfon cais am y lludw.”