Mae’r ddynes a honnodd fod aelod o’r Cabinet, Damian Green, wedi ymddwyn yn amhriodol tuag ati, yn mynnu bod Rhif 10 yn ymwybodol o “batrwm ei ymddygiad”.

Yn ôl Kate Maltby, roedd Damian Green wedi ymddwyn yn amhriodol tuag ati ar ddau achlysur ac roedd hi wedi rhoi gwybod i swyddogion y Prif Weinidog.

Fe wnaeth y gyn-ymgyrchydd Ceidwadol gyfweliad gyda’r BBC neithiwr gan ddweud bod yr achos o gamymddwyn rhywiol yn ymwneud â grym.

Theresa May “yn gwybod”

Yn ôl papur y Daily Telegraph, roedd Kate Malby wedi cysylltu â swyddfa Rhif 10 yn sôn am ei honiadau yn erbyn Damian Green cyn belled yn ôl â Medi 2016, ac mae’n honni bod y Prif Weindiog yn “gwybod” am ei ymddygiad.

Mae Theresa May wedi gwadu hynny unwaith eto, er gwaetha’ sylwadau Kate Maltby …

“Fyddwn i byth, byth wedi dweud fy stori am Damian Green heb gredu fy mod yn datgelu patrwm o ymddygiad yr oedd y Prif Weinidiog yn bersonol yn ymwybodol ohono,” meddai hi.

Ymateb Rhif 10

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 fod Swyddfa’r Cabinet wedi cynnal ymchwiliad “trylwyr” i’r honiadau yn erbyn Damian Green, a bod y Prif Weindiog yn bwriadu creu Côd Ymddygiad newydd ar gyfer y Blaid Geidwadol.

“Mae’r Prif Weinidog”, meddai, ”wedi dweud yn glir na ddylai neb sy’n gweithio ym maes gwleidyddiaeth fod ag ofn.

“Dyna pam mae hi am greu Côd Ymddygiad newydd ar gyfer y Blaid Geidwadol, a sefydlu grŵp trawsbleidiol a fydd yn cynnig awgrymiadau ar gyferdau dŷ’r Senedd.”