Mae arweinydd alltud Catalwnia wedi hawlio buddugoliaeth ar ôl i bleidiau annibyniaeth ennill mwyafrif main yn yr etholiadau ddoe.

Ond mae disgwyl rhagor o anhrefn ac ansicrwydd wrth i blaid ‘Sbaenaidd’ y Dinasyddion ennill mwy o seddi na’r un arall.

Mae hynny’n golygu y bydd ei harweinydd hi’n cael cyfle i ffurfio llywodraeth, er fod pleidiau gwrth-annibyniaeth yn lleiafrif.

‘Catalwnia wedi curo Sbaen’

Yn ôl Carles Puigdemont, yr arlywydd Catalanaidd a gafodd ei ddisodli gan y Llywodraeth ym Madrid, mae Catalwnia wedi gorchfygu Sbaen yn yr etholiad, a oedd wedi ei alw gan y Sbaenwyr.

Ac yntau’n alltud yng Ngwlad Belg, dyw hi ddim yn glir eto a fydd Carles Puigdemont yn ceisio ailafael yn yr awenau – fe allai gael ei arestio pe bai’n dod yn ôl i Gatalwnia.

Os bydd y Dinasyddion yn methu ffurfio llywodraeth a’r pleidiau annibyniaeth yn llwyddo, fe allai hynny arwain at argyfwng cyfansoddiadol arall – fe allai Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, barhau i atal datganoli a cheisio rheoli o Madrid.

Fe fydd rhagor o bwysau yn awr ar yr Undeb Ewropeaidd i gydnabod galwadau annibyniaeth Catalwnia.

Y patrwm

Mae patrwm y canlyniadau’n dangos mwyafrif cry’ tros annibyniaeth yn y rhannau gwledig, lle mae’r diwylliant a’r iaith Gatalan ar eu cryfa’, ond pleidiau gwrth-annibyniaeth oedd gryfa’ mewn dinasoedd fel Barcelona a Tarragona.