Rhaid i wleidyddion Prydeinig roi’r gorau i ymddangos ar sianel deledu RT – Russia Today gynt – sy’n cael ei chefnogi gan y Kremlin.

Dyna farn y cyn-Weinidog Ben Bradshaw sy’n dweud bod gwleidyddion sy’n fodlon bod ar raglenni’r sianel yn “ffyliaid defnyddiol”.

Wrth drafod ymyrraeth Rwsia yng ngwleidyddiaeth Prydain, mewn dadl seneddol, dywedodd Ben Bradshaw: “Mae yn rhaid ei bod yn amser i wleidyddion Prydeinig roi’r gorau i fod yn ffyliaid defnyddiol trwy ymddangos ar, a chymryd arian gan arfau propaganda’r Kremlin megis Russia Today a Sputnik…

“Fy neges iddyn  nhw yw bod Rwsia yn gas, yn genedlaetholgar, yn hynod geidwadol, yn llwgr… yn hiliol, yn homoffobig, ac nid yw yn celu’r ffaith ei fod am danseilio ein democratiaeth.”