Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael dirwy o £18,000 am dorri rheolau ar wario arian yn ystod ymgyrch refferendwm Brexit.

Roedd y blaid wedi cael dirwy o £17,000 am fethu â chyflwyno anfonebau a derbynebau digonol ar gyfer 80 o daliadau gwerth mwy na £80,000, meddai’r Comisiwn Etholiadol.

Roedd y £1,000 arall am fod rhai o’r taliadau wedi’u cyflwyno gyda’i gilydd yn hytrach na’u cofnodi fel taliadau unigol.

Mae mudiad Britain Stronger in Europe hefyd wedi cael dirwy o £1,250 am fethu â chyflwyno rhestr gywir o’u gwariant. Roedden nhw hefyd wedi cofnodi taliadau gyda’i gilydd yn hytrach na’u cofnodi’n unigol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol a Rheoleiddio’r Comisiwn Etholiadol, Bob Posner ei fod e “wedi’i siomi”.

“Rhaid i’r prif bleidiau gwleidyddol sicrhau bod buddsoddiad ac adnoddau digonol ar gyfer eu llywodraethiant mewnol fel y gallan nhw fod yn sicr o ateb eu rhwymedigaeth gyfreithiol.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol mai “gwall dynol” oedd yn gyfrifol am dorri’r rheolau.

Dirwy i fudiadau eraill

Cafodd Plaid Wleidyddol y Mewnfudwyr ddirwy o £2,500 am gyflwyno datganiadau ariannol yn hwyr.

Cyflwyno adroddiadau etholiadol, cyfrifon a gwariant yn hwyr oedd trosedd y Llais Unoliaethol Traddodiadol ac fe gawson nhw ddirwy o £1,850.

Cafodd Ymgyrch Hawliau Dynol Llafur ddirwy o £1,350 am gofnodi rhoddion gan aelodau yn hwyr.