Mae’r dyn a ddyfeisiodd y peiriant cyfri celloedd gwaed cyntaf wedi marw’n 89 oed.
Roedd yr Athro Heinz Wolff yn adnabyddus fel gwyddonydd a chyflwynydd teledu.
Daeth cadarnhad o’i farwolaeth gan Brifysgol Brunel yn Llundain.
Cafodd ei eni yn yr Almaen, yn fab i Iddewon, ac fe ddaeth i wledydd Prydain yn ffoadur ar y diwrnod y dechreuodd yr Ail Ryfel Byd yn 1939.
Symudodd o’r Cyngor Ymchwil Feddygol i Brifysgol Brunel yn 1983, ac fe weithiodd am gyfnod fel ymgynghorydd i’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.
Roedd hefyd wedi cyflwyno’r rhaglen deledu The Great Egg Race o 1977 i 1986.
Addysg a gyrfa
Fe gafodd ei addysg yn yr ysgol yn Rhydychen cyn astudio gwaedoleg yn ysbyty Radcliffe yn y ddinas honno, lle dyfeisiodd e beiriant i gyfri celloedd gwaed.
Graddiodd o Goleg Prifysgol Llundain gyda dosbarth cyntaf mewn ffisioleg a ffiseg.
Yn fwyaf diweddar, roedd yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Brunel, a’i waith yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol sy’n effeithio ar bobol oedrannus.
Dechreuodd ei yrfa deledu ar raglen Panorama gyda Richard Dimbleby yn 1966, ac yntau newydd ddyfeisio pilsen radio sy’n gallu mesur gwasgedd, tymheredd ac asid y stumog.
Ond fe fydd yn cael ei gofio’n bennaf am y rhaglen deledu The Great Egg Race, oedd yn gofyn i gystadleuwyr ddyfeisio gwrthrychau defnyddiol gan ddefnyddio adnoddau prin.
Daeth yn aelod anrhydeddus o’r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yn 1975, ac fe gyd-sefydlodd Prosiect Juno, a arweiniodd at anfon y ddynes gyntaf o wledydd Prydain, Helen Sharman i’r gofod.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Brunel, yr Athro Julia Buckingham fod Heinz Wolff “yn ysbrydoliaeth i ni gyd”.
Mae’n gadael dau fab a phedwar o wyrion.