Mae’r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol Harvey Proctor wedi dweud ei fod e wedi cael gwybod gan yr heddlu nad oes tystiolaeth ei fod e’n rhan o gylch pedoffiliaid.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Swydd Wiltshire, Mike Veale wrth na chafodd unrhyw honiadau gan yr heddlu.

Daeth Ymchwiliad Conifer i’r casgliad fod digon o sail i saith o honiadau am Syr Edward Heath, oedd yn Brif Weinidog Prydain rhwng 1970 a 1974, i’w holi pe bai’n dal yn fyw.

Ond doedd Harvey Proctor ddim yn destun ymchwiliad, ac fe ddywedodd ei fod yn “falch iawn” o gael cadarnhad, a bod y cyfan yn “ffantasi”.

 

 

Derbyniodd e ymddiheuriad gan Heddlu Llundain yn 2016 ar ôl i sawl heddlu rannu gwybodaeth amdano fe ymysg ei gilydd.